Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (47)v2 |
1. Cwestiynau Cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru (60 munud)
NDM4918 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Aflonyddu ar sail Anabledd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2011.
Dogfennau Ategol: Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4919 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan aelodau’r lluoedd arfog wrth amddiffyn ein gwlad; a
b) yr effaith ddinistriol y gall anhwylder straen wedi trawma ei chael ar fywyd cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod pa mor annigonol yw’r gwasanaethau presennol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma; a
b) cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r cynnydd a wnaethpwyd o ran gwella gwasanaethau trin anhwylder straen wedi trawma i gyn-aelodau’r lluoedd arfog ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol i’r gwasanaethau hyn ym mis Chwefror 2011.
Nodyn: Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar Driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, Chwefror 2011, drwy fynd i:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu is-bwynt 1c newydd: “pwysigrwydd gwasanaethau arbenigol ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef anhwylder straen wedi trawma”
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 2a
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod mwy o achosion o anhwylder straen wedi trawma ymysg cyn-bersonél y lluoedd arfog ac yn mynegi pryder ar ôl deng mlynedd o weithredu milwrol yn Affganistan a chwe blynedd o weithredu milwrol yn Irac bod nifer yr achosion o anhwylder straen wedi trawma yn debyg o godi yn y dyfodol ac yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau mwy o gefnogaeth ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y dyfodol.
|
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4920 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association – AWEMA” yn 2002;
b) adroddiad “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn 2004;
c) yn nodi bod cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn 2007 yn mynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r mudiad; a
d) adroddiad “Adolygiad o Effeithiolrwydd y Llywodraethu a’r Rheoli Ariannol yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)” yn 2012; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi datganiad yn amlinellu’n fanwl eu rhesymau dros barhau i gyllido AWEMA er bod pryderon cychwynnol wedi’u mynegi yn 2002, 2004 a 2007; a
b) datblygu a chyhoeddi protocol er mwyn sicrhau y caiff pryderon tebyg eu trin yn effeithiol yn y dyfodol.
Nodyn: Gall aelodau weld adroddiad 2002 “All Wales Ethnic Minority Association – AWEMA” ac adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects” yn Llyfrgell y Cynulliad.
Mae adroddiad 2012 “Adolygiad o Effeithiolrwydd y Llywodraethu a’r Rheoli Ariannol yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)” ar gael drwy fynd i:
http://cymru.gov.uk/docs/caecd/publications/120209finalawemareportdated8Febcy.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
“1. Yn nodi methiant Gweinidogion i fynd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd gan:
a) adroddiad 2002 "All Wales Ethnic Minority Association - AWEMA";
b) adroddiad 2004 “All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA): Review and Evaluation Report of Equality Policy Unit (EPU) Funded Projects”;
c) Cadeirydd Cymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA) a ysgrifennodd at Lywodraeth Cymru yn 2007 i fynegi pryderon difrifol am drefn lywodraethu’r sefydliad; a
2. Yn nodi ymhellach adroddiad 2012 “Adolygiad o Effeithiolrwydd y Llywodraethu a’r Rheoli Ariannol yng Nghymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (AWEMA)”; ac
ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd amseru cyhoeddi adroddiad 2012:
a) wedi rhoi cyfle i Aelodau’r Cynulliad allu craffu arno ar unwaith mewn cyfarfod llawn; a
b) wedi rhoi cyfle i’r Gweinidog sy’n gyfrifol roi datganiad llafar brys.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Gweinidog i gyhoeddi adroddiadau 2002 a 2004 ar-lein. |
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM4917 Nick Ramsay (Mynwy):
Dŵr – Adfywiad Adnodd.
O gamlesi i’r arfordir, o ynni gwyrdd i gronfeydd dŵr - bydd y Ddadl Fer yn tynnu sylw at rôl bwysig Dŵr ym mywyd Cymru a sut y gallwn ei reoli’n well. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2012